Taith i adeiliad newydd ysgol Ystalyfera

Ar fore 28ain o Chwefror, teithiom o’r ysgol i Ysgol Gyfun Ystalyfera, oherwydd dewysodd yr athrawon wyth disgybl  o flwyddwn 5 a 6 i fod yn  arweinydd digidol. Ar ol cyrhaeddom, gwnaeth yr athrawon cysylltu tri  ysgol i fod yn grwp 2. Yn gyntaf  cerddom lan i ystafell Ty Dewi. Fe wnaeth  Stephen Williams arwain sesiwn am Rol yr Arweinwyr0 Dygidol. Roedd rhaid siarad llawer, a chyfarthrebu gyda plant eraill er mwyn dysgu mwy am beth mae arweinwyr digidol eraill yn gwneud. Ar ol hynny aethom i ystafell Treoci lle wnaeth Darren Long ddysgu ni am floggio ar hwb. Nesaf aethom i’r ystafell ginio, cefais  sglodion, nyggets cyw iar a  salad blasus ac ysgitlaeth mefus i yfed. Ar ol hynny, am bwddin cefais crempog, oren a frwyth cymysg. Roedd y bwyd i gyd yn flasus iawn. Ar ol  hynny roeddwn wedi defnyddio VR gogls sydd yn sefyll am virtual reality gyda’r dyn o Google. Mae’n rhaid cysylltu ffon i’r bocs bach, ac chreu  dau twll i greu lle i chi rhoi eich llygaid. Hefyd gallwch lawrlwytho app sydd yn gallu rheoli’r ffon i wneud y person sydd yn gwisgo y gogls feddwl fod nhw mewn lle gwahanol e.e yn y gofod. Ar ol hynny aethom i ystafell sydd yn dysgu ni amdano office 365 ar hwb a sut i ddanfon e-bost i ein ffrindiau. Chwaraeom gem ceiniogau ac mae rhaid i chi cael arian a rhoi nhw ar y bwrdd a troelli nhw mewn 20 eiliad, a gweld faint cawsom, cefais i sgor o 27. Yn olaf, cerddom nol i’r neuadd fawr a dewedodd y athro beth mae rhaid i ni wneud. Cerddom nol ir bws ysgol i fynd adref. Dyna ddiwrnod!!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.