Skip to main content

Ein Taith Diddorol i Adeiliad Newydd Ysgol Ystalefera

Bore ma, daeth yr arwinedd digidol ar bws i Ysgol Ystalyfera. Roedd wyth disgybl o flwyddyn 5 a 6 wedi cael eu dewis i fod yn arweinwyr digidol. Yn gyntaf ,aethom ni i fewn i’r ystafell Ty Dewi i ddysgu am rol yr arweinwyr digidol. Stephen Williams oedd enw ein athro yn y dosbarth hynny. Hefyd yn grwp ni, sef grwp 2, roedd  Ysgol Cwmnedd, Ysgol Blaindilais ac wrth gwrs Ysgol Cwmllynfell, sef ni. Wedyn aethom i ddosbarth Treoci gyda Darren Long i ddysgu sut i flogio ac rwy’n credu dyma fy ffefryn. Ar ol hwnna aethon ni i gael bwyd. Cefais i sglodion, nuggets cyw iar, dwr a ffrwyth.Wedyn, cerddom ni lan i’r ystafell lle roedd google wedi dod a virtual reality googles. Roedd angen lawrlwytho app i rheoli y bocsys google. Aethon ni i’r gofod, o dan y mor, mewn llosgfynnydd, i wal enfawr Tseina, mynyddoedd eraill fel Snowdonia a llawer o lleoliadau eraill. Lan loft wedyn roedden ni wedi dringo mynydd yng Nghalafornia, gan ddysgu am ffrithiant. Ar ol ychydig o amser aethon ni mewn i’r ystafell olaf i ddysgu sut i ddanfon e-byst i bobl ar office365. Chwaraeon ni gem or enw ceiniogau ac ces i sgor o 27 a chafodd Llian yr un sgor. Bwriad y gem oedd gweld sawl 2 ceiniog gallech chi troillu mewn dau ddeg eiliad. Ar ol diwrnod hir yn Ystalefera aethon ni nol i’r ysgol yn y bws mini ac wedyn aethom gatref.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.